Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 3 Mai 2022
Amser: 09.01 - 09.32
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Siân Gwenllian AS Darren Millar AS |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) |
|
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Jane Dodds AS Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod
2 Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
3.2 Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 10 Mai -
Dydd Mawrth 17 Mai -
Nododd y Pwyllgor Busnes fod trefn y cwestiynau i weinidogion ar 11 Mai wedi'i haddasu, gyda chwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn dod cyn cwestiynau i Weinidog yr Economi.
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 25 Mai 2022 –
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
3.4 Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynigion a gyflwynwyd a chytunodd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 11 Mai 2022:
NNDM7994
Alun Davies
Cyd-gyflwynwyr
Rhun ap Iorwerth
Samuel Kurtz
Jane Dodds
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod 90 mlynedd eleni ers yr Holodomor: y newyn a laddodd tua 4-6 miliwn o bobl yn Wcráin dros 1932/33.
2. Yn nodi ymhellach bod y newyn hwn wedi digwydd o ganlyniad i weithredoedd a pholisïau bwriadol yr Undeb Sofietaidd.
3. Yn mynegi ei chydymdeimlad ac yn estyn ei chydgefnogaeth i bobl Wcráin ar ran pobl Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn rhaglen goffáu i gofio dioddefwyr yr Holodomor ac i godi ymwybyddiaeth o ddioddefaint pobl Wcráin.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 25 Mai:
NNDM7964
Jack Sargeant
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) mai Llywodraeth Cymru oedd y gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd, gan gydnabod y bygythiad difrifol y mae newid yn yr hinsawdd yn ei achosi;
b) bod cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus yn parhau i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil ac, ers blynyddoedd lawer, mae ymgyrchwyr wedi annog cynlluniau i ddadfuddsoddi;
c) bod partneriaeth bensiwn Cymru wedi symud yn gyflym i dynnu buddsoddiad o ddaliadau Rwsia yn ôl a'i fod wedi symud oddi wrth lo o'r blaen, gan ddangos felly ei bod yn bosibl i gronfeydd pensiwn wneud y penderfyniadau hyn;
d) bod Aelodau'r Senedd wedi cymryd y cam cyntaf i symud eu cronfeydd pensiwn eu hunain oddi wrth danwydd ffosil;
e) pe bai cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn dadfuddsoddi, Cymru fyddai'r wlad gyntaf yn y byd i gyflawni hyn, gan ddangos i ddarparwyr cronfeydd yr angen i greu cynhyrchion buddsoddi di-danwydd ffosil.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector cyhoeddus i gytuno ar strategaeth i ddatgarboneiddio pensiynau erbyn 2030, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â thargedau sero net presennol y sector cyhoeddus.
4 Rheolau Sefydlog
4.1 Adolygiad o Reol Sefydlog 34 a chyfrannu at drafodion y Senedd o bell: dull arfaethedig
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cylch gorchwyl a'r dull arfaethedig o gasglu tystiolaeth ar gyfer yr adolygiad, gan gynnwys y dylai ystyried statws y darpariaethau sydd wedi'u cynnwys ar hyn o bryd yn Rheol Sefydlog 34 (Gweithdrefnau Brys) a pharhau i gymryd rhan o bell yn nhrafodion y Senedd yn y tymor canolig cyn toriad yr haf. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai'r sefyllfa yn y tymor hwy o ran cyfranogiad a phleidleisio o bell, gan gynnwys ar gyfer tymhorau Seneddau’r dyfodol, gael ei hystyried ymhellach ac y dylid ymgynghori arni yn ddiweddarach yn ystod tymor y Senedd hon.